Pobun

Ciw-restr ar gyfer Gwraig y Dyledwr

(Y Criwr) Pell ac agos yma dewch,
 
(Dyledwr) Mil o lythyrau coel yn ei goffrau, ac yntau'n ein gado ni dlodion mewn angen a phoen.]
(0, 2) 163 Oni elli di drugarhau' wrthym, rhwygo'r darn papur melltigedig, yn lle bwrw tad fy mhlant i yng ngharchar, un nad achosodd ddrwg iti erioed!
(0, 2) 164 Oni feddi di nag anrhydedd na chydwybod, ai difater gennyt felltith yr amddifaid, ac onid cof gennyt am dy lyfr dyledion di dy hun, y bydd raid iti ei ddwyn gerbron y Barnwr pan ddêl hi at y pedwar peth diweddaf?
(Pobun) Aros, wraig, drwg yr wyt ti'n deall y peth a ddywedi; nid o ddrwg ewyllys yn erbyn dy ŵr y bu hyn; ystyriwyd y cwbl yn llawn ac yn deg cyn rhoi cyfraith arno.
 
(Cydymaith) Byddai'n warth o beth pe bai'n amgen.
(0, 2) 168 Arian, ceiniog yw arian a rydd dyn yn fenthyg i'w gymydog er mwyn trugaredd Dduw.
(Dyledwr) Arian?
 
(Pobun) Ac ni wn i am un awdurdod tros ben honno; o'i blaen hi bydd raid i bawb blygu, a thalu parch i'r petb sydd yn fy llaw i yma.
(0, 2) 182 Nid gwael wyt ti am ganmol diawl—mae'r peth fel pregeth ar dy dafod, a thalu parch yr wyt i god y Mamon, fel pe bai barch i'r cysegr ei hun.
(Pobun) Myfi, rhoi parch yr wyf i lle'r haeddir parch, ac nid cablu lle bynnag y gwelwyf fod gallu.
 
(Dyledwr) Bellach, dyma ben ar y bywyd hwnnw.
(0, 2) 189 A elli di edrych ar hyn oll cyn oered â'r garreg?
(0, 2) 190 Pa le y caf wely i'm plant heno?